Dull o drosglwyddo tir yw ffeodiad. Gwneir hynny trwy draddodi meddiant gan roi i'r ffeodai (y tirddeiliad newydd) yr hawl i drosglwyddo'r tir i'w etifeddion, neu'i werthu.
Yn yr achosion cynharaf, gwneid y ffeodiad gan uwcharglwydd (y ffeodwr) i'w ddeiliad yn gyfnewid am wasanaeth yr olaf. Defnyddir y term ffeodiad hefyd i gyfeirio at ddogfen a gofnodai drosglwyddiad tir o'r fath (a elwir hefyd yn weithred ffeodiad) neu at y tir ei hunan.[1]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search